Beth allwch chi ei wneud yma?
Mae Canolfan Gymuned Carreglefn yn lle hyblyg a chroesawgar ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd, dosbarthiadau a dathliadau o bob math.
Y Neuadd
Lleoliad delfrydol ar gyfer cyngherddau, dathliadau, cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol.
Ystafell Alaw
Ystafell glyd ac amlbwrpas, sy’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai a gweithgareddau grwpiau hyd at 20 mewn nifer.
Ystafell y Cen
Lle croesawgar ar gyfer cyfarfodydd, gweithgareddau cymdeithasol a dod ynghyd fel cymuned.
Y Gegin
Cegin ymarferol ac amlbwrpas, sy’n addas ar gyfer dosbarthiadau coginio, arddangosiadau a pharatoi lluniaeth ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.
Ystafell Pabo
Ystafell amlbwrpas ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai a gweithgareddau grwpiau bach.
Llogi Ystafell
Mae’r dogfennau canlynol ar gael i’ch helpu i drefnu eich digwyddiad.
Dewiswch fersiwn Word i lenwi’r ffurflen ar eich cyfrifiadur, neu’r fersiwn PDF i’w hargraffu a’i llenwi â llaw.
Popeth sydd ei angen arnoch
Wifi am ddim
Parcio
Mynediad hygyrch
Cegin
Sgrîn clyfar
Grwpiau o bob maint
Cyfleusterau ac Adnoddau
Lle i ddod ynghyd, dysgu, creu a dathlu!
Ers dros 30 mlynedd, mae Canolfan Gymuned Carreglefn wedi bod yn lle i bobl ddod ynghyd, rhannu profiadau a mwynhau cwmni ei gilydd.
Boed yn gyfarfod bach, gweithdy creadigol, dosbarth, cyngerdd neu ddathliad arbennig, mae gennym le i’ch croesawu.
Mae’r Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd a chyfleusterau hyblyg, a byddem wrth ein bodd yn eich helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.
Beth am ddod i weld beth sy’n bosibl?
Polisiau
- Polisi Amgylchedd
- Polisi Iaith
- Polisi Cwynion
- Polisi Iechyd a Diogelwch
- Polisi Diogelu





