Amdanom ni

Yr Ysgol wedi cau ond yn dal yn galon i'r gymuned

Er bod yr hen ysgol wedi cau ei drysau, mae’r adeilad yn dal yn galon i fywyd Carreglefn. Heddiw, mae’n fan croesawgar lle mae pobl o bob oed yn dod ynghyd i ddysgu, cymdeithasu a mwynhau gweithgareddau.

Ein stori - taith drwy'r blynyddoedd

Mae’r Ganolfan wedi newid llawer dros y blynyddoedd, ond mae ei bwrpas bob amser wedi aros yr un fath – gwasanaethu’r gymuned leol.

1900

Yr ysgol newydd

Agorwyd yr ysgol newydd yng Ngharreglefn yn 1900, yn darparu addysg i blant y pentref a’r ardal gyfagos.

1995

Y Neuadd Gymunedol

Ychwanegwyd y Neuadd Gymunedol a rhoi cyfle i’r gymuned ddefnyddio’r adeilad ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau.

2024

Cau'r ysgol

Ar ôl gwasanaethu’r gymuned am dros 120 o flynyddoedd cafoddd yr ysgol ei chau.

2025

Pennod newydd

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol i’r adeilad fel Canolfan Gymuned – lle i bawb.

Ein Cenhadaeth - Canolfan i Bawb

Ein nod yw creu canolfan gymunedol gynhwysol, groesawgar a bywiog, sy’n cynnig cyfleoedd i bobl o bob oed.  Rydym am gefnogi lles, dysgu a chymdeithasu  a dod â phobl at ei gilydd drwy weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau sy’n adlewyrchu anghenion a diddordebau ein cymuned.

Cynhwysiant a Chymuned

Lles a Iechyd

Dysgu a datblygu

Dod â phobl at ei gilydd

Ein Canolfan Heddiw

Diolch i waith caled ein gwirfoddolwyr, cefnogaeth Cyngor Cymuned Mechell a’r gymuned ynghyd â chylid grantiau, mae’r Ganolfan yn parhau i ddatblygu. Mae gwaith adnewyddu wedi gwella’r adeilad, ac mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau a chyfleusterau i bawb.

gofodcynnes2

Ymunwch â'r daith

Mae’r Ganolfan yn perthyn i’n cymuned ni i gyd, ac rydym am i chi fod yn rhan o’n taith. Dewch i rannu eich syniadau, cefnogi ein gwaith neu gymryd rhan mewn digwyddiadau.