Eich Adborth – Helpu Ni i Wella!

Wedi mwynhau digwyddiad neu gwrs? Rhowch wybod i ni!

Ydych chi wedi bod i gyngerdd, gweithgaredd, digwyddiad neu gwrs yng Nghanolfan Gymuned Carreglefn yn ddiweddar?

Beth oedd y peth gorau amdano? Oedd rhywbeth y gallem fod wedi’i wneud yn well? Neu efallai bod gennych syniad a fyddai’n gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy pleserus y tro nesaf?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Mae pob sylw’n werthfawr, boed yn ganmoliaeth, yn awgrym neu’n feirniadaeth adeiladol. Mae eich adborth yn ein helpu i ddatblygu ein gweithgareddau, gwella’r profiadau rydyn ni’n eu cynnig a chynllunio digwyddiadau sy’n apelio at ein cymuned.

Sut gallwch chi roi adborth?

Mae’n hawdd iawn! Dewiswch y ffordd sydd fwyaf cyfleus i chi.

Ar-lein: Llenwch ein holiadur yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Ar bapur: Lawrlwythwch ac argraffwch yr holiadur dwyieithog, ei lenwi a’i ddychwelyd atom yn y Ganolfan.

Beth sy'n digwydd i'ch adborth?

Nid casglu sylwadau’n unig rydyn ni eisiau ei wneud — rydyn ni eisiau gweithredu arnyn nhw hefyd!

Byddwn yn rhannu canlyniadau ein harolygon ar dudalen Newyddion y Ganolfan ac yn rhoi gwybod i chi am y camau rydyn ni wedi’u cymryd mewn ymateb i’ch awgrymiadau.

Os cewch unrhyw drafferth gyda’r holiadur ar-lein, cysylltwch â ni drwy cyswllt@carreglefn.org.

Diolch am roi o’ch amser i’n helpu. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wneud pob digwyddiad a gweithgaredd ychydig yn well na’r un blaenorol!