Tyfu rhywbeth arbennig yng Nghareglefn
Mae cymuned Carreglefn ar fin rhoi ychydig mwy o le i natur, ar ôl i Ganolfan Gymuned Carreglefn lwyddo i ennill Pecyn Tyfu Bwyd drwy gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus.
Bydd y pecyn, sy’n cynnwys planhigion, offer a deunyddiau, yn ein helpu i ddatblygu’r tir o amgylch y Ganolfan — nid yn unig er budd bywyd gwyllt, ond er mwyn creu lle deniadol, cynhyrchiol a hygyrch y gall y gymuned gyfan ei fwynhau.
I ni, nid mater o greu “gardd gymunedol” newydd o’r dechrau yw hyn. Mae’r Ganolfan eisoes yn fan cyfarfod yng nghanol y pentref, ac mae ein Clwb Garddio a’n gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio i wneud y safle’n fwy deniadol. Bydd cefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus yn ein galluogi i adeiladu ar y gwaith hwnnw, ychwanegu mwy o blanhigion a chynefinoedd i natur, a gwneud y gorau o’r gofod sydd gennym.
Mae rhai o’r gwelyau uchel eisoes yn eu lle ac wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch i bobl o bob oed a gallu. Mae sylfaen y twnnel polythen wedi’i gosod, a chyn bo hir bydd sied newydd hefyd yn rhan o’r ardal dyfu.
Ond nid gardd i edrych arni yn unig fydd hon.
Y gobaith yw creu gardd sy’n perthyn i’r gymuned gyfan — lle gall pobl helpu i dyfu, dysgu, sgwrsio a, gorau oll, rhannu’r cynhaeaf.
Ein gweledigaeth yw y bydd cynnyrch y tymor ar gael i bobl leol ei ddefnyddio. Y math o le lle, ryw ddiwrnod, gall rhywun feddwl:
“O diar, anghofiais i brynu letys… mi wna i alw heibio’r Ganolfan i weld beth sydd ar gael.”
Gallai fod yn letys, ychydig o berlysiau, courgette neu lond llaw o ffa — beth bynnag sydd yn ei dymor ac yn barod i’w gynaeafu. Yn hytrach na’r cynnyrch yn perthyn i unigolion, y syniad yw tyfu gyda’n gilydd a rhannu gyda’n gilydd.
Mae’r prosiect hefyd yn adeiladu ar waith Clwb Garddio’r Ganolfan, ac yn rhoi cyfle i fwy o bobl gymryd rhan — boed hynny drwy blannu, dyfrio, cynaeafu, dysgu sgil newydd neu ddim ond mwynhau gweld beth sy’n tyfu.
Bydd y Pecyn Tyfu Bwyd hefyd yn ein helpu i greu lle mwy croesawgar i natur, gyda chyfleoedd i blannu coed ffrwythau a blodau gwyllt, compostio a chreu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt.
“Mae’n hyfryd cael y cyfle i wneud rhywbeth sydd o fudd i natur ac i’r pentref ar yr un pryd. Mae gennym griw bach ond brwdfrydig iawn o wirfoddolwyr yng Ngharreglefn — ac, fel arfer, unwaith y bydd rhywun yn cynnig syniad, does dim llawer o amser cyn bod rhywun arall wedi dod o hyd i raw!”
Ers 2020, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cefnogi creu, adfer a gwella dros 2,000 o erddi ledled Cymru trwy ei gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae ystod eang o grwpiau wedi cymryd rhan, gan gynnwys ysgolion, sefydliadau cymunedol, grwpiau ieuenctid, elusennau anabledd, clybiau chwaraeon a gwasanaethau brys.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Mae’r gerddi hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – yn creu cynefinoedd i fywyd gwyllt tra hefyd yn rhoi cyfle i bobl gysylltu â natur, gwella eu lles ac yn cryfhau cysylltiadau cymunedol.
“Rydym yn llawn cyffro i weld sut mae’r ardd yn datblygu a gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobl eraill yn yr ardal i gymryd rhan.”
Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar drothwy’r drws’.
