Newyddion o Garreglefn
Y newyddion diweddaraf, straeon a digwyddiadau o galon ein cymuned.
Tyfu rhywbeth arbennig yng Ngharreglefn
Mae cymuned Carreglefn ar fin rhoi ychydig mwy o le i natur, ar ôl i Ganolfan Gymuned Carreglefn lwyddo i ennill Pecyn Tyfu Bwyd drwy gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus.
Haelioni Cyfeillion Canolfan Carreglefn
Mae haelioni ein cymuned wedi disgleirio eto! Codwyd swm o £465 mewn prynhawn coffi yn y Ganolfan, gyda’r holl arian yn mynd i Hafan, Plas Crigyll, sy’n darparu cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia.
