darllenwch am y newyddion diweddaraf yma
eich adborth
Dyma ganlyniad yr arolwg barn ar y sesiynau ‘Cadw’n gynnes gyda’n gilydd’. Fel y gwelwch mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn. Roedd pob ymateb a dderbyniwyd yn cytuno bod y digwyddiad wedi ei gynllunio yn dda neu yn ardderchog, eu bod wedi mwynhau’r digwyddiad a bod y digwyddiad yn groesawgar a chynhwysol.
Ymysg yr anghymhellion ar gyfer diwallu anghenion y gymuned oedd ceisiadau am fwy o weithgareddau gan gynnwys cyrsiau cymunedol a gweithgareddau llesiant. Felly, rydym trwy gydweithrediad â Choleg Menai a Phartneriaeth Addysg Gymunedol Môn a Gwynedd yn gallu cynnig 2 cwrs, 2 awr a hanner yr wythnos dros gyfnod o 8 wythnos. Mae’r cyrsiau yn agored i bawb, dim gwahaniaeth lle ‘rydych yn byw na faint yw eich hoed (oni bai nad ydych yn oed ysgol). I barhau i fedru cynnig gweithgareddau o’r fath, rydym angen eich cefnogaeth, felly os oes gennych ddiddordeb rhowch wybod i ni ar fyrder ogydd.
cwrs celf a chrefft
Nid ydych angen unrhyw ddawn celfyddyd i ymuno â’r cwrs hwn ond rydych angen parodrwydd i arbrofi, i ymollwng i’r profiad ac wrth gwrs i gael hwyl. Sesiynau i’w mwynhau yw rhain a phwy ŵyr efallai y gwnewch ddarganfod dulliau newydd o fynegi eich hun. Mae rhoi cyfleoedd i gymdeithasu yn ogystal â dysgu sgil newydd yn rhan annatod o’r math hwn o ddarpariaeth.
Mae sawl dull ar gael i chi gofrestru ar y cwrs, gallwch ddanfon e-bost atom neu cysylltu yn uniongyrchol â Coleg Menai (gweler y manylion ar y poster).
Cwrs Ffotograffiaeth digidol
Mae’r ffôn sydd yn eich poced neu yn eich bag yn declyn grymus iawn. Ydych chi y gwybod sut i’w lawn ddefnyddio? Beth am ddechrau ar y daith o ‘nabod eich ffôn yn well drwy arbrofi a dysgu sut i ddefnyddio’r camera? Mae’r sesiynau yn llawn hwyl a nid yn unig yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut i dynnu lluniau gwell ond hefyd yn rhoi cyfle i chi gymdeithasu.
Mae sawl dull ar gael i chi gofrestru ar y cwrs, gallwch ddanfon e-bost atom neu cysylltu yn uniongyrchol â Coleg Menai (gweler y manylion ar y poster).
datblygu'r ardd
Yn ddiweddar derbyniwyd grant gan Medrwn Môn ar gyfer paratoi’r ardd ar gyfer y Gwanwyn a’r Haf. Mae’r arian wedi ein galluogi i brynu dwy fainc a 2 flwch plannu. Bydd rhain yn edrych yn wych yn y gwanwyn. Diolch i Medrwn Môn am eu cyfraniad hael.
Yn fuan ym mis Ionawr daeth nifer o wirfoddolwyr at ei gilydd i ddechrau ar y gwaith, i atgyweirio, chwynnu a phlannu bylbiau. Yn ddi-os mi ddaw ffrwyth eu llafur i’r amlwg yn y Gwanwyn.
Ein gobaith yw y bydd trigolion y pentref a’r ardal ehangach yn defnyddio’r ardd un ai, i eistedd ac ymlacio mewn lleoliad hardd a heddychlon, neu i fanteisio ar y cyfle i wneud rhyw ‘chydig o arddio dros sgwrs.
cadw'n gynnes hefo'n gilydd
Derbyniwyd grant trwy law Medrwn Môn ar gyfer cynnal sesiynau Cadw’n Gynnes. Mae grantiau “Gofodau Cynnes” (Warm Spaces grants) yn gyllid sydd wedi’i anelu at gefnogi lleoedd cymunedol (fel llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, ac eglwysi) i agor eu drysau a chynnig lle diogel, cynnes a chroesawgar i bobl yn ystod misoedd y gaeaf. Mae hyn yn ymateb i’r argyfwng costau byw, gan helpu trigolion sy’n cael trafferth talu am wresogi gartref.
Dechreuwyd gyda 17 ohonom ond erbyn hyn mae dros 30 yn mynychu yn rheolaidd.
Clwb y cen
Sefydlwyd Clwb y Cen yn 2013 gyda’r nod o gynnig cyfleoedd i drigolion dros 50 i gyfarfod dros baned, i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol ac i barhau i ddysgu am wahanol agweddau o’r byd sydd ohoni drwy gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd ac ymweliadau i leoliadau diddorol. Hyn hefyd wrth gwrs yn sicrhau ein bod yn byw mewn cymuned oed gyfeillgar. Syniad Adrian Parry ac Ann Lewis oedd y fenter a phenderfynwyd ar yr enw oherwydd ‘Y Cen’ ydi’r enw a ddefnyddir am Carreglefn gan drigolion lleol dros y blynyddoedd.
Derbyniwyd arian gan Cyngor Cymuned Mechell i ddechrau’r clwb a cafwyd sawl cyfraniad arall tuag at ei gynnal. Derbyniwyd grantiau gan Medrwn Môn, er enghraifft Cronfa Gweithgareddau’r Hydref a chronfa Oed Gyfeillgar Ynys Môn. Mae’r cyfraniadau ariannol wedi galluogi’r clwb i drefnu nifer o weithgareddau ychwanegol ee sgwrs gan Dr Marian Gwyn ar Gaethwasiaeth a’r teulu Pennant, Ymweliad â Chastell Penrhyn, Cyfres o Ddawnsio Llinell, Cinio Nadolig a Chinio Gŵyl Ddewi; yn ogystal â nifer o siaradwyr gwadd ac i goroni’r cyfan perfformiadau ar y piano gan ddau bianydd proffesiynol, Mr Arwel Jones a Mr Iwan Owen (y ddau yn enedigol o’r Cen).
Dechreuodd y Clwb gyda 15 aelod, erbyn hyn mae wedi cynyddu i 25 o aelodau. Maent yn cyfarfod unwaith y mis, ar bnawn Mercher ac mae’r cyfarfodydd yn ddwyieithog. Mae Clwb y Cen yn agored i bawb dim gwahaniaeth lle rydych yn byw, mae’r tâl aelodaeth yn £10 y flwyddyn a tâl mynediad o £2 i bob cyfarfod. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni.