Croeso i Ganolfan Gymuned Carreglefn. Yn hanesyddol mae’r Neuadd Gymuned wedi bod yn gartref i ystod eang o weithgareddau cymunedol yn cynnwys partïon plant, cyngherddau, Ffeiriau Nadolig, cyrsiau, gyrfaoedd chwist, cyfarfodydd Clwb y Cen, cyfarfodydd Cyngor Cymuned, nosweithiau Bingo a llawer mwy. Gyda’r newid yn nefnydd yr adeilad, oherwydd cau Ysgol Gymuned Carreglefn, mae pennod newydd yn hanes yr adeilad ar droed. Ein gobaith yw y byddwch hefo ni pob cam o’r ffordd ac hefo eich cefnogaeth y bydd modd datblygu’r Ganolfan yn ‘Feniw’ aml bwrpas ar gyfer ein cymuned ac ardaloedd cyfagos. Tybed pwy fydd y pâr cyntaf i briodi yma?!
Y Tîm
ADRIAN PARRY (Cadeirydd)
JENNIFER RAFFLE (Ysgrifennydd)
ANN LEWIS (Trysorydd)
LLINOS LEWIS (Is-drysorydd)
JEFFREY AMOS
HELENA BURROWS
HUW JONES
SIONED JONES
CARYS LISK
EIRIAN LEWIS
SHARON OWEN
Eich llais
Mae eich barn yn bwysig i ni ac rydym bob amser yn falch o dderbyn sylwadau cadarnhaol yn ogystal â rhai adeiladol er mwyn ein galluogi i gynnig y gwasanaeth/profiadau gorau posib. Gallwch ddewis i gwblhau holiadur ar lein neu drwy gwblhau copi caled a’i ddychwelyd atom. Mae modd i chi argraffu copi caled o’r holiadur ar y dudalen hon. Gweler y blwch sydd ar y dde.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am roi o’ch amser i gwblhau holiadur. Fel y crybwyllwyd yn barod mae eich hadborth o fudd mawr i ni, nid yn unig fel sail i welliannau angenrheidiol ond hefyd i adrodd yn ôl i fudiadau penodol ynglŷn â llwyddiant gweithgareddau â ariannwyd ganddynt ar ffurf grant.
EICH ADBORTH
- Holiadur i’w argraffu (sgroliwch i lawr am y fersiwn Saesneg)
- Holiadur ar lein – Cymraeg
- Holiadur ar lein – Saesneg
Dyma’r tro cyntaf i ni fentro holiadur ar lein, os da chi’n cael trafferth plîs rhowch wybod i ni drwy e-bostio cyswllt@carregefn.org .
Cewch wybod am ganlyniadau pob arolwg ar y dudalen newyddion ac mae’n fwriad gennym hefyd adrodd yn ôl i chi yn union be rydym wedi ei wneud i ymateb i’ch adborth.