ein newyddion diweddaraf
Cyflwyniad i Wneud Gemwaith – cwrs AM DDIM yng Ngharreglefn!
Erioed wedi meddwl yr hoffech chi roi cynnig ar wneud eich gemwaith eich hun? Dyma’ch cyfle!
Mae Canolfan Gymuned Carreglefn yn falch iawn o groesawu Coleg Menai i’r Ganolfan yr hydref hwn ar gyfer cwrs Cyflwyniad i Wneud Gemwaith 4 wythnos – yn hollol AM DDIM!
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae’r gweithdy ymarferol a hamddenol hwn wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer dechreuwyr, gan roi cyfle i chi ddysgu’r technegau sylfaenol o wneud gemwaith gan ddefnyddio offer syml.
Dros y pedair wythnos byddwch yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd, arbrofi gyda syniadau a datblygu eich creadigrwydd, wrth ddarganfod sut i droi deunyddiau syml yn ddarnau o emwaith y gallwch eu gwisgo a bod yn falch ohonynt.
Mae’n gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd mewn awyrgylch cyfeillgar, creadigol a hamddenol – ac efallai darganfod hobi newydd ar hyd y ffordd!
A beth wedyn?
Os bydd digon o ddiddordeb ar ôl y pedair sesiwn gyntaf, mae’r Coleg yn awyddus i gynnig cwrs dilynol, gan roi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ymhellach a rhoi cynnig ar dechnegau a phrosiectau newydd. Bydd cost fechan ynghlwm wrth y cwrs pellach i gyfrannu at gost y deunyddiau.
Am fwy o fanylion neu i archebu lle cysylltwch â’r Coleg, gweler y manylion ar y poster neu cysylltwch â ni cyswllt@carreglefn.org
Cyfrifiaduron a Sgiliau Digidol – cwrs AM DDIM yng Ngharreglefn!
Hoffech chi deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiadur a gwneud mwy o’r offer digidol sydd ar gael i chi?
Mae Canolfan Gymuned Carreglefn yn falch iawn o groesawu Coleg Menai yn ôl i’r Ganolfan yr hydref hwn gyda chwrs Cyfrifiaduron a Sgiliau Digidol 10 wythnos – yn hollol AM DDIM!
Bydd y cwrs ymarferol a chyfeillgar hwn yn canolbwyntio ar Google Workspace ac yn eich helpu i ddarganfod sut mae’r gwahanol offer yn gallu gweithio gyda’i gilydd i wneud bywyd yn haws.
Bydd cyfle i feithrin eich hyder wrth ddefnyddio Google Docs i greu a golygu dogfennau, Sheets ar gyfer taenlenni a chyllidebau syml, Gmail ar gyfer e-bost, Google Drive i gadw a rhannu ffeiliau’n ddiogel, a Google Calendar i drefnu dyddiadau, apwyntiadau a digwyddiadau.
Does dim angen bod yn arbenigwr cyfrifiadurol! Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn ymarferol, hamddenol a defnyddiol, gyda chyfle i ddysgu ar eich cyflymder eich hun a magu hyder wrth fynd.
Am fwy o fanylion neu i archebu lle cysylltwch â’r Coleg, gweler y manylion ar y poster neu cysylltwch â ni cyswllt@carreglefn.org
Fe Wnaethoch Chi Ddweud – Fe Wnaethon Ni Wrando!
Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn gofyn i bobl sydd wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau Canolfan Gymuned Carreglefn beth maent yn ei feddwl ohonynt — ac rydym wedi cael ymateb gwych.
Hyd yma, rydym wedi derbyn 89 o holiaduron gwerthuso, 28 ohonynt yn ddigidol a 61 ar bapur. Mae’r ymatebion yn ymwneud â thri o’n gweithgareddau: Gyda’n Gilydd Dros Ginio, Ffotograffiaeth Ddigidol a Tai Chi.
Diolch am yr adborth gwych!
Roedd yr ymatebion yn hynod gadarnhaol. Roedd pawb a ymatebodd yn cytuno bod y gweithgareddau wedi’u cynllunio’n dda, eu bod wedi mwynhau cymryd rhan, a bod y digwyddiadau’n groesawgar a chynhwysol.
Mae hynny’n golygu llawer iawn i ni. Ein nod yw gwneud y Ganolfan yn fan lle gall pawb deimlo’n gartrefol, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, cwrdd â phobl a mwynhau bod yn rhan o’r gymuned.
Ond nid canmoliaeth yn unig oeddem ni eisiau ei chlywed. Roeddem eisiau gwybod hefyd:
Beth allem ni ei wneud yn well? A beth hoffech chi ei weld nesaf? A dyma lle mae pethau’n mynd yn ddiddorol!
Fe wnaethoch chi ddweud…
Ymhlith yr awgrymiadau oedd mwy o amser i gymdeithasu cyn cinio, mwy o gyfleoedd i ymarfer Cymraeg, a’r awydd i barhau â chinio y gall pobl dalu amdano.
…felly fe wnaethon ni wrando!
O 7 Medi, byddwn yn cyflwyno Dewch am Sgwrs am 10.30 y bore — sesiwn anffurfiol a chyfeillgar lle gall dysgwyr Cymraeg ddod at ei gilydd, cael paned ac ymarfer eu sgiliau siarad heb unrhyw bwysau.
Ac yna am 11.30, mae Cinio hefo’n gilydd yn dychwelyd!
Mae’r cinio misol yn ôl ar eich cais chi. Er nad oes gennym gyllid grant i’w gynnal y tro hwn, rydym am iddo barhau, felly byddwn yn gofyn am gyfraniad o £4 y pen.
Dau syniad sydd wedi dod yn uniongyrchol o’r hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym.
A beth nesaf?
Wel, mae gennym dipyn o restr!
Roedd eich syniadau eraill yn cynnwys nosweithiau cwis, grŵp gweu a chrosio, celf a chrefftau, cyrsiau, gweithgareddau cadw’n heini, yoga, hanes lleol, nosweithiau cerdd a sinema/ffilmiau, ymhlith eraill.
Ni allwn addo gwneud popeth — ond gallwn addo ein bod yn gwrando.
Dyna pam mae’r holiaduron gwerthuso mor bwysig. Nid ymarfer ticio blychau ydynt. Maent yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio, beth sydd ei angen ar y gymuned, a ble y dylem fynd nesaf.
Felly daliwch ati i roi eich barn. Efallai mai eich syniad chi fydd gweithgaredd nesaf Canolfan Gymuned Carreglefn!
Diolch o galon i bawb sydd wedi ymateb hyd yma.
Dewch am sgwrs – cyfle newydd i ymarfer eich Cymraeg
Mae ein ciniawau cymunedol misol wedi bod yn gyfle gwych i bobl ddod at ei gilydd i fwynhau bwyd, sgwrs a chwmni da. Ond maent hefyd wedi arwain at syniad newydd!
Yn ystod y gweithgareddau cyn cinio, rydym wedi croesawu nifer o ddysgwyr Cymraeg sydd wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar. Dywedodd rhai wrthym, fodd bynnag, y byddent yn hoffi cael mwy o amser wedi’i neilltuo’n benodol ar gyfer sgwrsio yn Gymraeg.
Felly, rydym ni wedi gwrando!
O’r 7fed o fis Medi, byddwn yn cynnal sesiwn newydd, Dewch i Siarad, am 10.30 y bore, cyn ein cinio cymunedol misol.
Nid gwers Gymraeg mo hon — dim ond cyfle i ddod at ein gilydd, cael paned a siarad Cymraeg. Does dim ots pa mor rhugl ydych chi, ac yn sicr does dim ots os ydych chi’n gwneud camgymeriadau. Y nod yw magu hyder, ymarfer yr hyn rydych wedi’i ddysgu a, gobeithio, cael tipyn o hwyl ar yr un pryd.
Bydd croeso cynnes i ddysgwyr o bob lefel, ac wrth gwrs bydd cyfle i aros wedyn ac ymuno â ni am ginio.
Felly, os ydych chi’n dysgu Cymraeg ac eisiau mwy o gyfleoedd i’w siarad — dewch draw am sgwrs!
Mae’r Ciniawau’n Dychwelyd!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd ein ciniawau cymunedol misol poblogaidd yn dychwelyd ddydd Llun, 7 Medi, yn dilyn egwyl fer dros yr haf.
Ers dechrau’r fenter, mae’r ciniawau wedi dod yn llawer mwy na chyfle i fwynhau pryd o fwyd gyda’n gilydd. Maent wedi dod yn achlysur cymdeithasol pwysig, gan ddod â hen ffrindiau a chymdogion ynghyd, croesawu pobl sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar, a rhoi cyfle i bawb fwynhau sgwrs, chwerthin a chwmni da mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar.
Mae hefyd wedi bod yn braf gweld dysgwyr Cymraeg yn defnyddio’r cyfle i ymarfer eu sgiliau siarad mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol.
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn cymorth ariannol tuag at gost cynnal y ciniawau. Y tro hwn, fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw gyllid grant i gefnogi’r fenter. Er mwyn gallu parhau i ddarparu’r cinio bob mis, byddwn felly’n gofyn am gyfraniad o £4 y person tuag at gost y bwyd.
Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi i barhau â rhywbeth sydd wedi profi mor boblogaidd ac sydd wedi dod yn rhan werthfawr o galendr y Ganolfan.
Felly, rhowch 7 Medi yn eich dyddiadur a dewch draw i ymuno â ni. Bydd bwyd da, paned, digon o sgwrsio ac, os yw’r sesiynau blaenorol yn unrhyw arwydd, tipyn go lew o chwerthin hefyd!
Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl.
Mae'r Clwb Garddio yn mynd o Nerth i Nerth
Mae llawer i’w ddathlu yng Nghlwb Garddio Cymunedol Carreglefn wrth i’n haelodau barhau i droi syniadau yn realiti.
Yn cyfarfod bob yn ail brynhawn Gwener, mae’r Clwb wedi mwynhau haf prysur a chynhyrchiol. Diolch i frwdfrydedd a gwaith caled ein gwirfoddolwyr, mae’r gw’lau uchel yn y Ganolfan Gymunedol bellach yn llawn perlysiau, llysiau a blodau sy’n ffynnu. Mae’n hyfryd gweld ffrwyth llafur pawb yn dechrau dod i’r amlwg, ac mae’r ardal dyfu yn datblygu’n ofod deniadol a chynhyrchiol i’r gymuned gyfan ei mwynhau.
Mae’r Clwb hefyd wrth ei fodd wedi sicrhau cyllid drwy ddau gais grant llwyddiannus, a fydd yn ein helpu i gymryd y camau nesaf cyffrous wrth ddatblygu ein gardd gymunedol.
Diolch i gefnogaeth hael Cyngor Cymuned Mechell, rydym wedi sicrhau cyllid i brynu tri plannwr cymunedol mawr a fydd yn cael eu gosod ym Mhen Clegyrog ac wrth y fynwent. Bydd y planwyr lliwgar hyn yn creu croeso cynnes i ymwelwyr ac yn ychwanegu lliw a diddordeb drwy gydol y flwyddyn.
Rydym hefyd wedi llwyddo i sicrhau Pecyn Tyfu Bwyd Cadwch Gymru’n Daclus, a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ardal dyfu fwyd gymunedol llawer mwy yn y Ganolfan Gymunedol. Mae’r pecyn yn cynnwys y deunyddiau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i greu gardd gynhyrchiol sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, gan gynnwys gwelyau uchel, offer garddio, coed ffrwythau, blodau gwyllt, twnnel polythen, cyfleusterau compostio a chefnogaeth ymarferol gan dîm Cadwch Gymru’n Daclus a’u partneriaid.
Roeddem yn falch iawn o groesawu cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i Garreglefn ar gyfer ymweliad cychwynnol y prosiect. Aeth yr ymweliad yn arbennig o dda, a chawsom gyfle i drafod cynllun yr ardal dyfu newydd a’r camau nesaf yn y prosiect. Rydym bellach yn edrych ymlaen at dderbyn y cynlluniau terfynol, gyda’r gwaith i fod i ddechrau yn ystod ail wythnos mis Medi.
Nid tyfu planhigion yn unig yw diben y Clwb Garddio – mae hefyd yn ymwneud â meithrin gwybodaeth, hyder a chyfeillgarwch. Tra bod misoedd yr haf wedi canolbwyntio ar waith garddio ymarferol a chynnal a chadw’r mannau tyfu, mae’r pwyllgor bellach wrthi’n paratoi Rhaglen Gyffrous yr Hydref a’r Gaeaf, a gaiff ei lansio ym mis Medi.
Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o sgyrsiau a sesiynau hyfforddi ymarferol ar wahanol agweddau ar arddio, gan roi cyfle i aelodau ddatblygu sgiliau newydd drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn gobeithio trefnu un neu ddau o ymweliadau â gerddi ac atyniadau garddwriaethol, er mwyn rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau’r dyfodol.
P’un a ydych yn arddwr profiadol neu erioed wedi codi trywel o’r blaen, bydd croeso cynnes iawn i chi. Rydym yn cyfarfod bob yn ail ddydd Gwener am 1.00pm yng Nghanolfan Gymunedol Carreglefn, ac mae aelodau newydd wastad yn cael croeso i ymuno â ni, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau garddio mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.
Gyda’r planwyr cymunedol newydd, prosiect tyfu bwyd cyffrous ar fin dechrau, a rhaglen lawn o weithgareddau wedi’i chynllunio ar gyfer y misoedd nesaf, nid oes erioed wedi bod yn amser gwell i ymuno â ni.
Gyda’n gilydd, nid blodau, ffrwythau a llysiau yn unig rydym yn eu tyfu – rydym yn meithrin cyfeillgarwch, sgiliau, bioamrywiaeth a balchder yn ein cymuned.
Dyma ddechrau pennod newydd gyffrous i Glwb Garddio Cymunedol Carreglefn. Edrychwn ymlaen at rannu diweddariadau rheolaidd wrth i’r prosiect ddatblygu, ac at groesawu llawer mwy o bobl i ymuno â ni ar y daith gyffrous hon.
Taith Gerdded o gwmpas yr ardal
Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni ar daith gerdded hamddenol a chyfeillgar o amgylch cyrion y pentref.
Bydd y prynhawn pleserus hwn yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, ailgysylltu â wynebau cyfarwydd, a dysgu mwy am hanes cyfoethog y pentref a’r ardal gyfagos. Ar hyd y ffordd, byddwn yn rhannu straeon a gwybodaeth leol sy’n dod â’r ardal yn fyw.
Bydd y daith hefyd yn gyfle gwych i ddysgwyr Cymraeg sydd wedi symud i’r ardal ymarfer eu sgiliau iaith mewn awyrgylch cefnogol ac anffurfiol. P’un a ydych yn siaradwr rhugl neu newydd ddechrau dysgu, mae croeso i bawb ymuno.
Manylion y Digwyddiad:
- Man cychwyn: Neuadd y Pentref
- Amser: 2:00 yp
- Diwedd y daith: Yn ôl i Neuadd y Pentref
Er mwyn tawelwch meddwl, bydd cerbyd cymorth yn dilyn y daith rhag ofn y bydd argyfwng.
Ar ddiwedd y daith, dewch yn ôl i’r neuadd am baned a theisen — cyfle perffaith i ymlacio, sgwrsio, a dod i adnabod ein gilydd yn well.
Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni am brynhawn o awyr iach a sgwrsio. Mae croeso i bawb!
Mae’r Ciniawau’n Dychwelyd!
Daeth ein cwrs blasu Tai Chi chwe wythnos i ben yn llwyddiannus heddiw, a hoffem ddiolch yn fawr i bawb a fu’n cymryd rhan. Mae wedi bod yn braf gweld cymaint o bobl yn dod ynghyd bob wythnos i ddysgu sgil newydd, gwella eu llesiant, a mwynhau cwmni ei gilydd yng Nghanolfan Gymuned Carreglefn.
Diolch arbennig i’n tiwtor, Cath Norris, am ei dull addysgu cynnes, amyneddgar ac ysbrydoledig, a wnaeth bob sesiwn yn bleserus ac yn hygyrch i bawb. Mae gan Cath y ddawn i wneud i bobl deimlo’n gartrefol o’r cychwyn cyntaf, gan egluro’r symudiadau’n glir ac addasu’r sesiynau fel y gallai pawb gymryd rhan yn hyderus, beth bynnag oedd eu profiad neu eu gallu. Roedd ei brwdfrydedd a’i hangerdd dros Tai Chi yn amlwg ym mhob sesiwn, gan greu awyrgylch cyfeillgar a chefnogol a werthfawrogwyd yn fawr gan bawb a fynychodd.
Disgrifir Tai Chi yn aml fel “myfyrdod ar symud.” Trwy gyfres o symudiadau araf a llyfn, mae’n helpu i wella cydbwysedd, hyblygrwydd, cydsymud, ystum y corff a chryfder, tra hefyd yn lleihau straen ac yn hybu ymlacio. Mae’n weithgaredd addas i bobl o bob oed a phob gallu, gan ei wneud yn ffurf wych o ymarfer corff ysgafn sy’n fuddiol i’r corff a’r meddwl.
Yn ystod y chwe wythnos diwethaf, mae’r cyfranogwyr wedi magu hyder yn y symudiadau, mwynhau’r awyrgylch croesawgar, a darganfod bod Tai Chi yn cynnig llawer mwy nag ymarfer corff yn unig. Mae’n gyfle i wella iechyd corfforol, cefnogi llesiant meddyliol, cwrdd â phobl newydd, a chymryd saib o ofynion bywyd bob dydd.
Yn sgil llwyddiant y sesiynau blasu hyn, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cwrs Tai Chi 12 mis yn dechrau yng Nghanolfan Gymuned Carreglefn ym mis Medi. P’un a fuoch yn rhan o’r sesiynau blasu neu’n newydd sbon i Tai Chi, bydd croeso cynnes iawn i chi ymuno â ni.
Os ydych wedi bod yn ystyried dechrau gweithgaredd sy’n gwneud lles i’r corff a’r meddwl, dyma’r cyfle perffaith. Rydym wrth ein bodd y bydd Cath Norris yn dychwelyd i arwain y cwrs newydd, ac edrychwn ymlaen at groesawu wynebau cyfarwydd ac aelodau newydd pan fydd y sesiynau’n ailgychwyn ym mis Medi.
Cadwch lygad ar ein gwefan a’n tudalen Facebook am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r dyddiadau, yr amseroedd a’r manylion archebu.
Cyfarodydd Cadw’n Gynnes hefo’n gilydd yn Cael eu Hymestyn Hyd at Ddiwedd Mis Mehefin
Yn sgil y galw mawr, bydd y ciniawau poblogaidd yn parhau hyd ddiwedd mis Mehefin.
Yn wreiddiol, dim ond tan ddiwedd mis Mawrth yr oedd grant yn ariannu’r cyfarfodydd, ond oherwydd brwdfrydedd y mynychwyr roedd trefnwyr yn awyddus i gadw’r digwyddiadau i fynd. Mae’r ciniawau wedi dod â hen ffrindiau a chymdogion ynghyd, yn ogystal â phobl sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar ac oedd yn awyddus i wneud ffrindiau newydd. Mae rhai hefyd wedi mwynhau’r cyfle i ymarfer eu sgiliau Cymraeg newydd mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.
Er mwyn gallu parhau â’r ciniawau yn fisol, cytunwyd y byddai pawb yn cyfrannu £3 tuag at gost eu pryd bwyd — ac mae hynny wedi profi’n llwyddiant mawr. Mae’r digwyddiadau’n parhau i ddenu tua 30 o bobl ar gyfartaledd bob mis, gyda phawb yn mwynhau bwyd da, sgwrsio bywiog a llawer o hwyl.
Gyda’r gwanwyn yn ei anterth, penderfynwyd rhoi’r gorau i’r cawl a chyflwyno saladau a thatws newydd yn ei le. Blasus iawn!
Bydd y sesiwn olaf cyn egwyl yr haf yn cael ei chynnal ar 29/6/26, pan fydd cinio arbennig ar thema te prynhawn yn cael ei weini cyn i’r cyfarfodydd ailgychwyn ym mis Medi.
Hoffai Pwyllgor y Neuadd hefyd estyn diolch diffuant i staff a rheolwyr Fferm Lastra am eu nawdd, eu haelioni a’u cefnogaeth barhaus, sydd wedi helpu i wneud y ciniawau yn gymaint o lwyddiant.











Ffotograffiaeth Digidol
Rôl 8 wythnos tu hwnt o ddiddorol mae’r cwrs Ffotograffiaeth Digidol yn dirwyn i ben. Mae’r oriel uchod sy’n arddangos ffotograffau gorau’r cyfranogwyr ar ddiwedd y cwrs yn dangos yn glir y cynnydd a’r creadigrwydd a ddatblygwyd drwy gydol y sesiynau. Roedd ansawdd y gwaith a gynhyrchwyd yn adlewyrchu faint a ddysgwyd ac a gyflawnwyd yn ystod y cwrs.
Mwynhaodd y 12 cyfranogwr y cwrs yn fawr iawn ac maent wedi synnu pa mor gyflym yr aeth y sesiynau heibio. Roedd cydbwysedd gwych rhwng rhannu gwybodaeth a gweithgareddau ymarferol, gan wneud pob sesiwn yn ddiddorol ac yn bleserus.
Roedd yr awyrgylch yn gyfeillgar, hamddenol a chroesawgar, gyda digon o gyfleoedd i gymdeithasu a dod i adnabod pobl newydd. Dysgodd y cyfranogwyr lawer am gyfansoddiad, goleuo, aramlygiad a golygu, ac roedd gwelliant amlwg yn ansawdd eu ffotograffau.
Un o agweddau mwyaf cadarnhaol y cwrs oedd pa mor hygyrch yr oedd — gan ddangos pa mor bwerus y gall camera ffôn fod pan gaiff ei ddefnyddio’n effeithiol. Gwnaeth y tiwtor y dysgu yn hwyl ac annog pawb i arbrofi a bod yn greadigol.
Nid yw’n syndod o gofio cymaint oedd mwynhad y cyfranogwyr bod y Coleg wedi cytuno i ychwanegu tair sesiwn ychwanegol ar y diwedd. Byddai’r cyfranogwyr yn argymell y cwrs yn fawr i unrhyw un sydd eisiau gwella eu sgiliau ffotograffiaeth mewn amgylchedd cefnogol a phleserus.
Cwrs Blasu Tai Chi – Yn Dechrau Ym Mis Mehefin
Rydym yn falch o gynnig cwrs cyflwyno/blasu Tai Chi dros 6 wythnos, sy’n agored i bawb waeth beth fo’u hoedran neu eu profiad.
Mae Tai Chi yn ffurf ysgafn o ymarfer corff a all helpu i wella cydbwysedd, hyblygrwydd, ymlacio, a lles cyffredinol. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel cyflwyniad cyfeillgar ac yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd mewn awyrgylch hamddenol a chroesawgar.
Manylion y Cwrs:
- Diwrnod: Nos Iau
- Amser: 6.30 yp – 7.30 yp
- Dyddiad dechrau: 29/6/26
- Cost: £6 y sesiwn
Os bydd digon o ddiddordeb, bydd cyfle i gyfranogwyr gofrestru ar gyfer cwrs hirach wedyn.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
I archebu eich lle, defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar y wefan neu e-bostiwch: cyswllt@carreglefn.org









Ffair Wanwyn Lwyddiannus
Bu Ffair Wanwyn gyntaf y Ganolfan yn llwyddiant ysgubol, gyda thyrfa wych yn mynychu gan gynnwys aelodau o’r gymuned leol yn ogystal â rhai o ardaloedd pellach i ffwrdd. Daeth pobl o bob oed ynghyd i fwynhau’r digwyddiad, gan greu awyrgylch cynnes a chroesawgar drwy gydol y pnawn.
Aeth yr ymwelwyr ati’n frwd i ymuno yn ysbryd y ffair, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau a gweithgareddau traddodiadol. Dywedodd llawer pa mor braf oedd cael profi ymdeimlad cryf o gymuned, gyda chymdogion, ffrindiau ac wynebau newydd yn dod ynghyd i fwynhau’r achlysur.
Roedd y ffair hefyd yn gyfle gwych i arddangos cynhyrchwyr a busnesau lleol. Hoffem estyn ein diolch i’r Cwt Mwg, Teisennau Bryn Coch, Creigiau Bach Succulents, Dwy Bont Cymru a Siop Fferm a Becws y Giggling Goat am gefnogi’r digwyddiad a dod â’u nwyddau arbennig i’r ffair. Dyma sylwadau’r Giggling Goat ar y digwyddiad– “Roedd Ffair Wanwyn Carreglefn dros y Sul yn wych! Tyrfa fawr i bentref mor fychan! Roedd yr ymdeimlad o gymuned yn rhyfeddol!”
Roedd y stondin blanhigion, gyda phlanhigion wedi’u tyfu’n lleol, yn hynod boblogaidd ac roedd bron popeth wedi gwerthu erbyn diwedd y dydd. Bu’r stondin lyfrau hefyd yn llwyddiant mawr, gan ddenu darllenwyr brwd a helwyr bargen fel ei gilydd.
Yn y cyfamser, roedd lluniaeth yn gwerthu’n gyflym iawn o’r gegin, lle roedd ein cogyddion profiadol yn cadw pawb yn fodlon drwy gydol y pnawn. Roedd y cŵn poeth, yn arbennig, yn boblogaidd iawn ymhlith yr ymwelwyr.
Diolch yn fawr i bawb a fynychodd, i’r gwirfoddolwyr, i’r rhai hynny a gyfrannodd neu gefnogodd mewn unrhyw ffordd ac a helpodd i wneud y Ffair Wanwyn gyntaf yn achlysur mor bleserus a chofiadwy. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod.
Ymunwch â Ni ar gyfer Ein Ffair Wanwyn Gyntaf erioed!
Rydym yn falch iawn o’ch gwahodd i Ffair Wanwyn gyntaf ein cymuned — dathliad bywiog o’r tymor, sydd yn dod â phobl leol, doniau lleol, a digon o hwyl y gwanwyn at ei gilydd.
Dewch draw i fwynhau diwrnod arbennig, llawn blasu bwyd a diod, gemau i bob oed, a gwerthiant planhigion gyda dewis eang o blanhigion a dyfwyd yn lleol. Boed chi yn arddwr brwd, yn hoff o fwyd, neu’n chwilio am ddiwrnod allan llawn mwynhad, mae rhywbeth yma i bawb.
🌿 Cyfle Arbennig i Werthwyr
Rydym yn cynnig stondin am £15 yr un, gan roi cyfle i chi werthu eich cynnyrch eich hun — boed hynny’n fwyd cartref, diodydd adfywiol, neu blanhigion dros ben o’ch gardd. Mae’n ffordd berffaith o rannu eich angerdd, cysylltu ag eraill, a hyd yn oed ennill ychydig o arian ychwanegol.
🌱 I Arddwyr
Os oes gennych blanhigion dros ben, mae hwn yn gyfle gwych i’w troi’n arian. Ac i brynwyr, mae’n gyfle i brynu planhigion iach, wedi’u tyfu’n lleol, am brisiau sydd yn aml yn rhatach na’r siopau — gan gefnogi’r gymuned ar yr un pryd.
Dewch draw i ddathlu’r gwanwyn, i gefnogi doniau lleol, a gwneud y Ffair Wanwyn gyntaf hon yn un i’w chofio. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
wedi ei ohirio - dyddiad arall i ddod
Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni ar daith gerdded hamddenol a chyfeillgar o amgylch cyrion y pentref.
Bydd y prynhawn pleserus hwn yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, ailgysylltu â wynebau cyfarwydd, a dysgu mwy am hanes cyfoethog y pentref a’r ardal gyfagos. Ar hyd y ffordd, byddwn yn rhannu straeon a gwybodaeth leol sy’n dod â’r ardal yn fyw.
Bydd y daith hefyd yn gyfle gwych i ddysgwyr Cymraeg sydd wedi symud i’r ardal ymarfer eu sgiliau iaith mewn awyrgylch cefnogol ac anffurfiol. P’un a ydych yn siaradwr rhugl neu newydd ddechrau dysgu, mae croeso i bawb ymuno.
Manylion y Digwyddiad:
- Man cychwyn: Neuadd y Pentref
- Amser: 2:00 yp
- Diwedd y daith: Yn ôl i Neuadd y Pentref
Er mwyn tawelwch meddwl, bydd cerbyd cymorth yn dilyn y daith rhag ofn y bydd argyfwng.
Ar ddiwedd y daith, dewch yn ôl i’r neuadd am baned a theisen — cyfle perffaith i ymlacio, sgwrsio, a dod i adnabod ein gilydd yn well.
Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni am brynhawn o awyr iach a sgwrsio. Mae croeso i bawb!
Clapio Wyau
Bu hen draddodiad Pasg Ynys Môn, sef Clapio Wyau, yn llwyddiant aruthrol y Pasg hwn wrth i dros 50 o oedolion a phlant ddod ynghyd yn y Ganolfan i gymryd rhan yn y dathliadau poblogaidd.
Roedd y digwyddiad yn helpu i gadw un o draddodiadau unigryw Ynys Môn yn fyw, gan ddod â’r gymuned ynghyd i fwynhau gweithgaredd draddodiadol, treftadaeth leol, a hwyl y Pasg i bob oedran.
Roedd y trefnwyr wrth eu bodd gyda’r nifer dda a fynychodd a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan y cyfranogwyr, gyda llawer yn canmol y digwyddiad am ddathlu rhan bwysig o ddiwylliant yr ynys.
Cefnogwyd y prosiect drwy un o raglenni Menter Môn, Balchder Bro Ynys Môn, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth hefyd gan Gyngor Ynys Môn.
Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd llwyddiant digwyddiad eleni yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan yn y dathliadau yn y dyfodol ac i barhau â’r traddodiad a’r hwyl o Glapio Wyau ar Ynys Môn am genedlaethau i ddod.
eich adborth
Dyma ganlyniad yr arolwg barn ar y sesiynau ‘Cadw’n gynnes gyda’n gilydd’. Fel y gwelwch mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn. Roedd pob ymateb a dderbyniwyd yn cytuno bod y digwyddiad wedi ei gynllunio yn dda neu yn ardderchog, eu bod wedi mwynhau’r digwyddiad a bod y digwyddiad yn groesawgar a chynhwysol.
Ymysg yr anghymhellion ar gyfer diwallu anghenion y gymuned oedd ceisiadau am fwy o weithgareddau gan gynnwys cyrsiau cymunedol a gweithgareddau llesiant. Felly, rydym trwy gydweithrediad â Choleg Menai a Phartneriaeth Addysg Gymunedol Môn a Gwynedd yn gallu cynnig 2 cwrs, 2 awr a hanner yr wythnos dros gyfnod o 8 wythnos. Mae’r cyrsiau yn agored i bawb, dim gwahaniaeth lle ‘rydych yn byw na faint yw eich hoed (oni bai nad ydych yn oed ysgol). I barhau i fedru cynnig gweithgareddau o’r fath, rydym angen eich cefnogaeth, felly os oes gennych ddiddordeb rhowch wybod i ni ar fyrder ogydd.
cwrs celf a chrefft
Nid ydych angen unrhyw ddawn celfyddyd i ymuno â’r cwrs hwn ond rydych angen parodrwydd i arbrofi, i ymollwng i’r profiad ac wrth gwrs i gael hwyl. Sesiynau i’w mwynhau yw rhain a phwy ŵyr efallai y gwnewch ddarganfod dulliau newydd o fynegi eich hun. Mae rhoi cyfleoedd i gymdeithasu yn ogystal â dysgu sgil newydd yn rhan annatod o’r math hwn o ddarpariaeth.
Mae sawl dull ar gael i chi gofrestru ar y cwrs, gallwch ddanfon e-bost atom neu cysylltu yn uniongyrchol â Coleg Menai (gweler y manylion ar y poster).
Cwrs Ffotograffiaeth digidol
Mae’r ffôn sydd yn eich poced neu yn eich bag yn declyn grymus iawn. Ydych chi y gwybod sut i’w lawn ddefnyddio? Beth am ddechrau ar y daith o ‘nabod eich ffôn yn well drwy arbrofi a dysgu sut i ddefnyddio’r camera? Mae’r sesiynau yn llawn hwyl a nid yn unig yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut i dynnu lluniau gwell ond hefyd yn rhoi cyfle i chi gymdeithasu.
Mae sawl dull ar gael i chi gofrestru ar y cwrs, gallwch ddanfon e-bost atom neu cysylltu yn uniongyrchol â Coleg Menai (gweler y manylion ar y poster).
datblygu'r ardd
Yn ddiweddar derbyniwyd grant gan Medrwn Môn ar gyfer paratoi’r ardd ar gyfer y Gwanwyn a’r Haf. Mae’r arian wedi ein galluogi i brynu dwy fainc a 2 flwch plannu. Bydd rhain yn edrych yn wych yn y gwanwyn. Diolch i Medrwn Môn am eu cyfraniad hael.
Yn fuan ym mis Ionawr daeth nifer o wirfoddolwyr at ei gilydd i ddechrau ar y gwaith, i atgyweirio, chwynnu a phlannu bylbiau. Yn ddi-os mi ddaw ffrwyth eu llafur i’r amlwg yn y Gwanwyn.
Ein gobaith yw y bydd trigolion y pentref a’r ardal ehangach yn defnyddio’r ardd un ai, i eistedd ac ymlacio mewn lleoliad hardd a heddychlon, neu i fanteisio ar y cyfle i wneud rhyw ‘chydig o arddio dros sgwrs.
cadw'n gynnes hefo'n gilydd
Derbyniwyd grant trwy law Medrwn Môn ar gyfer cynnal sesiynau Cadw’n Gynnes. Mae grantiau “Gofodau Cynnes” (Warm Spaces grants) yn gyllid sydd wedi’i anelu at gefnogi lleoedd cymunedol (fel llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, ac eglwysi) i agor eu drysau a chynnig lle diogel, cynnes a chroesawgar i bobl yn ystod misoedd y gaeaf. Mae hyn yn ymateb i’r argyfwng costau byw, gan helpu trigolion sy’n cael trafferth talu am wresogi gartref.
Dechreuwyd gyda 17 ohonom ond erbyn hyn mae dros 30 yn mynychu yn rheolaidd.
Clwb y cen
Sefydlwyd Clwb y Cen yn 2013 gyda’r nod o gynnig cyfleoedd i drigolion dros 50 i gyfarfod dros baned, i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol ac i barhau i ddysgu am wahanol agweddau o’r byd sydd ohoni drwy gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd ac ymweliadau i leoliadau diddorol. Hyn hefyd wrth gwrs yn sicrhau ein bod yn byw mewn cymuned oed gyfeillgar. Syniad Adrian Parry ac Ann Lewis oedd y fenter a phenderfynwyd ar yr enw oherwydd ‘Y Cen’ ydi’r enw a ddefnyddir am Carreglefn gan drigolion lleol dros y blynyddoedd.
Derbyniwyd arian gan Cyngor Cymuned Mechell i ddechrau’r clwb a cafwyd sawl cyfraniad arall tuag at ei gynnal. Derbyniwyd grantiau gan Medrwn Môn, er enghraifft Cronfa Gweithgareddau’r Hydref a chronfa Oed Gyfeillgar Ynys Môn. Mae’r cyfraniadau ariannol wedi galluogi’r clwb i drefnu nifer o weithgareddau ychwanegol ee sgwrs gan Dr Marian Gwyn ar Gaethwasiaeth a’r teulu Pennant, Ymweliad â Chastell Penrhyn, Cyfres o Ddawnsio Llinell, Cinio Nadolig a Chinio Gŵyl Ddewi; yn ogystal â nifer o siaradwyr gwadd ac i goroni’r cyfan perfformiadau ar y piano gan ddau bianydd proffesiynol, Mr Arwel Jones a Mr Iwan Owen (y ddau yn enedigol o’r Cen).
Dechreuodd y Clwb gyda 15 aelod, erbyn hyn mae wedi cynyddu i 25 o aelodau. Maent yn cyfarfod unwaith y mis, ar bnawn Mercher ac mae’r cyfarfodydd yn ddwyieithog. Mae Clwb y Cen yn agored i bawb dim gwahaniaeth lle rydych yn byw, mae’r tâl aelodaeth yn £10 y flwyddyn a tâl mynediad o £2 i bob cyfarfod. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni.