Clwb y Cen
December 16 @ 13:00 - 16:30

Sefydlwyd Clwb y Cen ar gyfer pobol dros 50 oed. Mae’r clwb yn cyfarfod yn fisol ac mae’n agored i bawb, dim gwahaniaeth lle rydych yn byw. Mae gofyn tâl o £10 y flwyddyn ac mae pob cyfarfod yn costio £2 (sydd yn cynnwys raffl). Ceir cyflwyniad ar amrywiaeth o destunau diddorol gan siaradwr gwadd ac mae lluniaeth ysgafn ar gael ar ddiwedd pob cyfarfod.