ein hanes

hen

Ein cenhadaeth

Yn ôl log Ysgol Carreglefn, ar ddydd Llun 8fed Ionawr 1900,  gorymdeithiodd y plant gyda’r Pennaeth John Davies, o’r hen leoliad yn ysgoldy’r capel i fyny i’r ysgol newydd. Yn 1995, o ganlyniad i haelioni trigolion yr ardal ychwanegwyd estyniad i’r ysgol sef y Neuadd Gymunedol bresennol, adnodd at ddefnydd y gymuned yn bennaf a thros y 30 mlynedd olaf mae hi wedi bod yn gartref i nifer helaeth o wahanol weithgareddau a digwyddiadau llwyddiannus.

Tristwch o’r mwyaf oedd i Ysgol Gymuned Carreglefn gau ddiwedd Awst 2024.  Erbyn hyn, gyda chymorth a chefnogaeth y Cyngor Sir mae’r adeilad i gyd yng ngofal  (ar lês) y Cyngor Cymuned ac yn cael ei weinyddu gan is-bwyllgor sef  Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymuned Carreglefn.

Mae Cyngor Cymuned Mellech, yn bennaf drwy is- bwyllgor,  sef Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymuned Carreglefn yn gweithio’n galed i sicrhau dyfodol llewyrchus i adeilad yr hen ysgol, ein bwriad a’n gobaith yw y bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn ganolbwynt ffyniannus i’r gymuned leol ac yn leoliad diogel a chynaliadwy sydd yn cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi gan drigolion yr ardal.

Byddwn yn hybu, galluogi a hwyluso gweithgareddau cynhwysol sydd yn mynd i’r afael ag anghenion y gymuned leol a’r ardaloedd cyfagos ee anghenion cymdeithasol, lles, iechyd, hyfforddiant  ac adloniadol.

Byddwn yn ymghyhori yn gyson gyda’r gymuned leol er mwyn medru ymateb yn amserol i  faterion ac anghenion lleol.

bainc
Shopping Cart