Telerau ac Amodau

Bydd yr holl drefniadau llogi yn cael eu gwneud drwy bwyllgor Canolfan Gymuned Carreglefn a fydd yn cadarnhau y telerau ac amodau. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod archeb heb roi rheswm dros wrthod. Wrth logi, byddwn yn gofyn am fanylion, yn cynnwys amserau a chynllun ystafelloedd ac, os yw'n berthnasol, niferoedd a ragwelir. Rhaid gwneud unrhyw newidiadau i archebion o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad eich trefniant llogi.
01.

Prisiau

02.

Trefn llogi

Rydym yn gobeithio cynnig opsiwn llogi ar lein yn yr hir dymor ac mae’n fwriad gennym ei dreialu dros y misoedd nesaf.  

Yn y cyfamser gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni drwy’r wefan un ai drwy ddanfon e-bost neu drwy ddefnyddio’r bocs neges yma.

Mae’r costau llogi ar gael ar y dudalen hon ac mae modd i chi lawrlwytho’r Ffurflen Llogi a’r Rheolau Llogi yma hefyd. 

Wedi i chi sicrhau argaeledd yr ystafell rydych am ei llogi bydd gofyn i chi ddarllen a chytuno i’r Rheolau Llogi ac yna cwblhau’r Ffurflen Llogi.  Bydd angen i chi hefyd ddanfon taliad atom pythefnos cyn dyddiad dechrau eich digwyddiad.

03.

Canslo a thalu

Os byddwch yn gorfod canslo, gohirio neu aildrefnu eich digwyddiad ac yn rhoi mwy na 7 diwrnod o rybudd, ni fyddwn yn codi tal. Os caiff ei ganslo o fewn 7 diwrnod neu lai, byddwn yn codi’n llawn arnoch am gost yr ystafell.

05.

Cofnodion

06.

Adroddiadau ariannol

prisiaullogi
Shopping Cart