cyfleusterau
Mae’r Neuadd Gymuned wedi croesawu nifer o weithgareddau a digwyddiadau dros y 30 mlynedd olaf; gyda’r newidiadau i ddefnydd Ysgol Gymuned Carreglefn ‘rydym yn awyddus iawn i ehangu’r defnydd o’r Ganolfan ac i ddenu mwy o fudiadau lleol a busnesau i wneud defnydd o’r adnodd penigamp hwn. Yn barod mae un o’r dosbarthiadau sef ‘Stafell Alaw’ wedi ei hadnewyddu ac mae erbyn hyn yn addas ar gyfer cynnal sesiynau hyfforddi, cyfarfodydd busnes, sesiynau rhannu gwybodaeth ayb. Mae’r ganolfan yn cynnwys neuadd fawr, dwy ystafell bwyllgor/ddysgu a chegin broffesiynol. Mae’r adeilad yn cynnig ystod o gyfleusterau cyfoes. Yn y neuadd fawr, ceir llwyfan symudol, taflunydd, system sain, a phiano. Mae WiFi ar gael trwy’r adeilad. Am fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod eich anghenion penodol cysylltwch â ni.
EIN TELERAU
Gofynnir yn garedig i chi wneud yr holl drefniadau llogi gyda Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymuned Carreglefn ac yn ddelfrydol trwy’r wefan. Mae’r costau llogi ar gael ar waelod y dudalen ac mae modd i chi lawrlwytho’r Ffurflen Logi a’r Rheolau Llogi yma hefyd. Wedi i chi sicrhau argaeledd yr ystafell rydych am ei llogi bydd gofyn i chi ddarllen a chytuno i’r Rheolau Llogi ac yna cwblhau’r Ffurflen Logi. Bydd angen i chi hefyd ddanfon taliad atom pythefnos cyn dyddiad dechrau eich digwyddiad. Rydym yn gobeithio cynnig opsiwn llogi ar lein yn yr hir dymor ac mae’n fwriad gennym ei dreialu dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni drwy’r wefan. Os byddwch yn gorfod canslo, gohirio neu aildrefnu eich digwyddiad ac yn rhoi mwy na 7 diwrnod o rybudd, ni fyddwn yn codi tâl. Os caiff ei ganslo o fewn 7 diwrnod neu lai, byddwn yn codi’n llawn arnoch am gost yr ystafell.
Gwybodaeth a dogfennau llogi





